Skip to content ↓

Gweledigaeth Digidol / Digital School Vision​​​​​​​

Gweledigaeth Dysgu Digidol

Gan fod technoleg yn tanategu ffordd o fyw fodern heddiw mae'n hanfodol bod pob dysgwr yn ein hysgol yn ennill yr hyder a'r gallu, y mae eu hangen arnynt er mwyn ffynnu yn yr 21ain ganrif, i'w paratoi ar gyfer yr her o fyd technolegol sy'n datblygu'n gyflym.

Dysgwyr

Yn Ysgol Gymraeg Trelyn, ein gweledigaeth yw i arfogi ein plant gyda’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn yr 21ain ganrif. Byddwn yn ymdrechu i feithrin unigolion sy'n gymwys yn ddigidol, sy'n annibynnol, yn barchus, yn ymwybodol o'r byd o’u cwmpas, ond yn bennaf oll yn ddiogel ar-lein. Bydd ein hysgol yn cynnig amgylchedd lle mae technoleg yn rhan annatod o ddysgu, ddydd i ddydd, lle bydd y dysgwyr yn cael y cyfle i gysylltu yn lleol ac ar draws y byd. Ein dyletswydd a'n cyfrifoldeb yw sicrhau bod y plant yn ymwybodol o'r agweddau negyddol sydd yn gysylltiedig gyda thechnoleg ac sut y gellir osgoi'r agweddau dan sylw drwy ddefnydd diogel a chyfrifol.

Athrawon                                                                                                                                                                    

Byddwn yn anelu i greu amgylchedd lle mae'r defnydd o dechnoleg yn ddi-dor ac yn hygyrch i bawb bob amser. Bydd staff yn defnyddio technoleg arloesol mewn modd ystyrlon i wella ac hyrwyddo’r cwricwlwm gan ysbrydoli a chymell y dysgwyr. Bydd athrawon yn defnyddio, modelu ac arddangos y dechnoleg mewn modd diogel a chyfrifol i:

  • gynorthwyo eu haddysgu'n fwy effeithlon
  • personoli eu dysgu
  • gefnogi asesu
  • ymestyn y cyswllt rhwng yr ysgol a'r cartref
  • helpu i godi safonau.

Digital Learning Vision

As technology underpins today’s modern lifestyle it is essential that all students at our school gain the confidence and ability, that they need to thrive in the 21st century, to prepare them for the challenge of a rapidly developing and changing technological world.

Learners 

At Ysgol Gymraeg Trelyn, we aim to arm our children with the necessary skills to thrive in the 21st-century. We will strive to nurture digitally competent individuals who are independent, respectful, globally-aware but most of all safe online. Our school will offer an environment where technology is an integral part of day to day teaching and learning where learners will have the opportunity to connect locally and globally. It is our duty and responsibility to make the children aware of the negative aspects of technology and how these can be avoided through safe and responsible usage.

Teachers

We will aim to create an environment where the use of technology is always seamless and accessible to all.  Staff will use innovative technology in a meaningful way to enhance and enliven the curriculum to inspire and motivate the learners. Teachers will promote, model and demonstrate the use of technologies in a safe and responsible way to:

  • aid in teaching more efficiently
  • personalising learning
  • supporting assessment
  • extending the link between school and home
  • help raise standards