Diogelwch ar y We / eSafety
Diogelwch ein dysgwyr ar-lein yw un o’n prif flaenoriaethau yn Ysgol Trelyn. Rydym yn trafod defnydd cyfrifol o dechnoleg yn gyson gyda’r disgyblion, gan sicrhau eu bod yn deall sut i gadw’n ddiogel, parchus ac yn gyfrifol ar-lein.
Mae gan yr ysgol amserlen Dinasyddiaeth Ddigidol hanner-tymorol sy’n dilyn cynllun Common Sense – cynllun sy’n addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac sy’n ymdrin â themâu fel diogelwch ar y cyfryngau cymdeithasol, hunaniaeth ddigidol, a rheoli amser ar sgrin.
Rydym hefyd yn gweithio gyda asiantaethau allanol, gan gynnwys yr heddlu cymunedol a sefydliadau arbenigol eraill, i gryfhau’r negeseuon hyn a sicrhau bod disgyblion yn cael y wybodaeth fwyaf cyfredol ac addas.
Rydym yn annog cydweithio agos gyda rhieni ac yn eich annog i atgyfnerthu’r negeseuon hyn yn y cartref. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad am apiau poblogaidd a sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein drwy'r linc hwn:
🔗 Defnydd Cywir o Apiau – HWB
Keeping our learners safe online is a key priority at Ysgol Trelyn. We regularly talk to pupils about the responsible use of technology, helping them understand how to stay safe, respectful, and responsible online.
Our school follows a half-termly Digital Citizenship timetable, based on the Common Sense curriculum. This programme is tailored to each year group and covers important topics such as social media safety, digital identity, and managing screen time.
We also work closely with external agencies, including the community police and specialist organisations, to strengthen our online safety messages and provide up-to-date, relevant advice.
We believe a strong partnership with parents is vital, and encourage you to reinforce these messages at home. You can find more information and guidance about popular apps and how to keep your child safe online at:
🔗 Using Apps Safely – HWB
🛡️ 10 Awgrym ar gyfer Diogelwch Ar-lein Gartref
10 Tips for Online Safety at Home
-
Siaradwch yn rheolaidd â’ch plentyn am eu bywyd digidol.
Talk regularly with your child about their digital life. -
Cadwch ddyfeisiau mewn mannau agored yn y cartref.
Keep devices in shared family spaces. -
Defnyddiwch osodiadau preifatrwydd ac hidlyddion diogelwch.
Use privacy settings and parental controls. -
Adolygwch apiau a gemau y mae’ch plentyn yn eu defnyddio.
Review the apps and games your child is using. -
Dysgwch am y platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd.
Learn about the most popular social media platforms. -
Gosodwch derfynau amser sgrin ac amser di-dechnoleg fel teulu.
Set screen time limits and tech-free family time. -
Anogwch eich plentyn i siarad os bydd rhywbeth yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus.
Encourage your child to speak up if something makes them feel uncomfortable. -
Gwnewch yn siŵr bod cyfrineiriau’n gryf ac yn breifat.
Ensure passwords are strong and kept private. -
Cofiwch – nid yw popeth ar-lein yn wir nac yn ddiogel.
Remind them that not everything online is true or safe. -
Ewch i weld y canllawiau defnyddiol ar HWB:
🔗 https://hwb.gov.wales/keeping-safe-online/in-the-know/
Visit HWB for up-to-date guidance on staying safe online.